Rheoli Parasitiaid
Parasite Control

Mae rheoli parasitiaid yn rhan hanfodol o ofalu am eich ceffyl o ddydd i ddydd. Mae ein tîm yn Milfeddygon Dolgellau Cyf yn argymell dull wedi’i dargedu sy’n cael ei arwain gan ddiagnosis yn hytrach na thriniaethau cyffredinol. Mae hyn yn helpu i atal ymwrthedd parasitiaid i feddyginiaethau llyngyr ac yn lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.
Mae’r rhan fwyaf o berchnogion ceffylau yn ymwybodol o’r angen i roi triniaeth llyngyr yn rheolaidd i’w ceffylau. Bydd bron pob ceffyl yn cario o leiaf un math o lyngyr parasitig yn ei gorff. Mae’n bwysig sylweddoli bod y llyngyr hyn yn aml yn bresennol mewn niferoedd isel ac nad ydynt yn achosi unrhyw niwed i’r ceffyl. Fodd bynnag, gall ceffyl sydd â nifer uchel o lyngyr oedolion ddangos arwyddion clinigol fel colli pwysau, cot ddiflas, a charthion meddal. Gall nifer uchel o rai rhywogaethau o lyngyr hefyd fod yn gysylltiedig â chyflyrau a all fod yn fygythiad i fywyd.
Er y gellir cadarnhau nifer uchel o lyngyr oedolion trwy gyfrif wyau mewn carthion (FEC), ar y cam hwn o’r cylch bywyd dim ond trwy gymryd sampl gwaed y gellir canfod llyngyr bach coch.
Gall ein tîm ddarparu rhaglenni llyngyru strategol a gwybodaeth am gyfrif wyau mewn carthion i’ch arwain gyda dull penodol ac wedi’i dargedu o reoli llyngyr yn eich ceffylau a’ch merlod unigol.
Beth am ddod â sampl baw atom fel y gallwn roi cyngor yn ôl eich amgylchiadau unigol, neu ffoniwch i drefnu i un o’n milfeddygon gymryd sampl gwaed ar gyfer llyngyr coch bach?
Parasite control is a vital part of your day to day life with your horse/pony. Our team at Milfeddygon Dolgellau Cyf recommends a diagnostic-led, targeted approach rather than blanket treatments. This prevents parasite resistance to wormers and minimises environmental impacts.
Most horse owners are aware of the need to worm their horses on a regular basis. Almost every horse alive will have at least one parasitic worm in its body. It is important to realise that often these worms are present in low numbers and cause the horse no ill effects. However, a horse with a high adult worm count may present clinical signs such as weight loss, dull coat, and soft faeces. While a high adult worm count of some species of worm are also associated with potentially life-threatening conditions.
It is therefore clear that control of these worms is important to the welfare of the horse. While a high adult worm count can be confirmed through faecal egg counting (FEC), at this stage of the life cycle, small redworms can only be detected by taking a blood sample.
Our team can provide strategic worming programmes and faecal egg counts information to guide you with a specific and targeted approach to worming your individual horses and ponies.
Why not drop a faecal sample in with us so that we can advise according to your individual circumstances or call to arrange for one of our vet to take a blood sample for small redworms?
Remember 20% of horses carry 80% of burden.
Mae profi’n allweddol ar gyfer ymagwedd benodol ac wedi'i thargedu sy’n unigryw i anghenion eich ceffyl.
Testing is key for specific and targeted approach that is unique for your horse/pony’s needs.







